Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Bro Aled

Cofnodion mis Medi 2017 September Minutes

CYNGOR CYMUNED LLANSANNAN COMMUNITY COUNCIL
COFNODION PWYLLGOR GYNHALIWYD NOS FERCHER 13eg MEDI 2017 am 7-30yh
YN NEUADD GOFFA PLWYF Y BYLCHAU, GROES.
Presennol: Cynghorwyr: Celfyn Williams (Cadeirydd) Gareth Jones, Elwyn Jones ,Delyth Williams, Guto Davies, Glyn O Roberts, Meurig Davies, Emrys Owen, Berwyn Evans a Trefor Roberts.
Aelodau o’r Cyhoedd: Cynghorydd Sir Sue Lloyd-Williams, Eifion M Jones, Bethan Jones,
Terry Wilde, Sandra Williams (Cyfieithydd) ac Emrys Williams (Clerc)
1. Ymddiheuriadau: P J Coombes
2. Cyfle i ddangos diddordeb ar unrhyw fater ar yr Agenda:
Cynghorwyr, Celfyn Williams, Gareth Jones Elwyn Jones, Eitem 7.6
Cynghorydd Delyth Williams, Eitem 7.1, a 9.1 Cynghorydd, Berwyn Evans, Eitem 9.1
3. Cadarnhau Cofnodion Pwyllgor Blaenorol Y Cyngor 16/08/2017
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo a llofnodi fod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd 16/08/2017 yn gofnod cywir.
4. Materion yn codi o’r Cofnodion:
Nid oedd dim yn codi o’r cofnodion
5. Adroddiad y Cynghorydd Sir:
Derbyniwyd adroddiad o ddyddiadur llawn y Cynghorydd Sir o Orffennaf 3ydd hyd at Medi 13eg
Yn ogystal :
Llawer iawn o ddiolch i bawb a fu’n brysur yn y Groes ac yn Llansannan gyda’r dathliadau diweddar – yn wir, mae genym unigolion sy’n WERTH Y BYD - wrth iddynt fynd ati i drefnu, cyfrannu a chymeryd rhan o fewn eu cymunedau er mwyn cyfoethogi’r hyn sydd genym. Rydym yn lwcus tu hwnt o’r Ward fendigedig Gymreig hon – ei diwylliant, ei phobl a’i Iaith.
Maes Aled – adborth gan yr Adran Briffyrdd mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Meurig. Rydwi’n hyderus y bydd geni fwy o newyddion erbyn y cyfarfod.
Dreins oamgylch Llansannan – ymholiad gan y Cyng. Meurig. Fe anfonnais i ymholiad at yr Adran berthnasol ynglyn a’r gwaith – dwi’n dal i aros i glywed ymhellach.
Fe dderbyniais gwyn ynglyn a blerwch wrth deithio o groesffordd y Bylchau i lawr am Nantglyn (sydd jest o fewn y Ward!) – fe anfonwyd y gwyn yn ei blaen at yr Adran berthnasol – er gwybodaeth, rhag ofn i’r Cyngor Cymuned hefyd dderbyn yr un gwyn.
Coed Maes Aled – mae’r Sir wedi cysylltu eto er mwyn darganfod pa bryd y bydd Cartrefi Conwy yn mynd ati gwblhau’r gwaith fel a gytunnwyd eisioes – tacluso wrth yr afon ar ol y gwaith torri coed. Mi adawai ichi w’bod wrth gwrs beth a fydd y canlyniad/ymateb.
Mae’n bleser geni eich hysbysu fy mod wedi fy enwebu fel un o’r Cynghorwyr i gynrychioli Sir Conwy ar Awdurdod Tan Gogledd Cymru – Fe ofynnwyd imi hefyd fod yn Aelod i ledio ar gydraddoldeb – rydwi eisioes wedi cyfarfod gyda Swyddogion er mwyn cyd-weithio a gyrru’r agenda yma ymlaen, ac mi fyddwn yn parhau i weithio ar hyn dros y misoedd nesaf.
Gohirio’r Rheolau Sefydlog
6. Cyfle i’r Cyhoedd annerch Y Cyngor:
Cafwyd datganiad gan Mr Terrence Wilde ynglyn a probemau dosbarthu’r post, parseli ayb sydd yn parhau i fodoli ar y ddwy stad Bronallt a Cae’r Gofaint yn Y Groes.
PENDERFYNWYD: Y Clerc i ail gysylltu gyda’r adranau perthnasol yn CBS Conwy.
Adfer y Rheolau Sefydlog

7. Cyllid Balans Banc .06/09/2017
Cyfrif y Dreth £19,077.42
Cyfrif H G Owen £17,987,66 Cyfanswm. £37,065.08
Taliadau
7.1 15/08/17.Debyd Uniongyrchol , TT&B Williams Rhent Swyddfa Bost £151.66
7.2 16/08/17. Debyd Uniongyrchol, Nwy Prydain, Trydan Swyddfa Post Llansannan £82.34
7.3 23/08/17. Iona Edwards, Cyfrifydd ,Archwiliad Mewnol. £60.00
7.4 31/08/17. Arfon Wynne, Strimio £1,902.66. Mynwent x 2 £276.00 £2,308.39
Gwaith cyffredinol £129.73
7.5 11/09/17.Cyfieithu Cymunedol, 16/08/17 £91.96
7.6 13/09/17.Cadarnhau, Taliad Neuadd Goffa Plwyf Y Bylchau (Taliad Cyntaf 2017/2018) £600.00 Cyfanswm Taliadau £ 3,294.35
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo fod y ffigyrau uchod yn gywi
Cymeradwyo talu oll o’r taliadau uchod
Derbyniadau
22/08/17 Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 17/18 Precept £6667.00
Taliadau, 01/04/2017 -31/08/2017 £11604.19
Derbyniadau, 01/04/2017 –31/08/2017 £15862.33
Adolygiad cyllideb ar gyfer Medi / Hydref /Tachwedd.
TT&B Williams £455.00. Arfon Wynne £1500,00. BT £80.00. Brit Gas £80.00 Your Tourism £35.00. CBS Conwy, Rhaglen Chwaraeon Haf £600.00. CBS Conwy Scips £740.00. Cyfiethu £180.00. Neuadd Goffa Plwyf Y Bylchau £600.00. Cyflog + Costau clerc £1400.00 Cyfanswm , £5670-00

Amcangyfrif Derbyniadau misoedd uchod.
Ad-daliad llwybrau £1,585.00 HMB Enterprise Fflint £210.00 Cyfanswm/TotaL, £1795.00

8. Rhybudd o Geisiadau am Ganiatad Cynllunio.
Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau.
9. Gohebiaeth
9.1 17/08/17 Sharon Evans. Sylwadau ynglyn a cyfraniad o £1.000-00 y Cyngor i Glwb Pel-droed Llansannan
9.2 21/08/17 Cyngor Sir Ddinbych / Denbighshire County Council. Gwybodaeth ynglyn ag Ymgynghoriad ar Adroddiad Adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol.
9.3 24/08/17 Hafwen Davies, Clwt Grugor.
9.4 03/09/17 BDO. Pwyntiau Archwilio heb eu Hateb & Amodi.
9.5 04/09/17 Cartrefi Conwy. / Coed Maes Aled.
10. Unrhyw fater arall
10.1 Adolygiad o’r Rheolau Sefydlog Y Cyngor.
10.2 Adolygiad o’r Rheoliadau Ariannol.
10.3 Cyfethol. Croesawyd Bethan Jones i’r cyfarfod gan Y Cadeirydd.
PENDERFYNWYD: Cyfethol Bethan Jones yn aelod o’r Cyngor Cymuned.

11 Unrhyw fater a ddygwyd i sylw’r Clerc cyn y cyfarfod
11.1 Arwyddion ar stadau Bronallt a Cae’r Gofaint Groes
11.2 Arwydd i Cae Chware Ffordd Gogor. Cytunodd Eifion M Jones ddarparu arwydd ar gyfer y cae chware.
11.3 Cyng Meurig Davies, Ymholiad ynglyn a clanhau ” grids” o amgylch Llansannan
11.4 Cyfeiriodd Y Cynghorydd Guto Davies at lwyddiant y Gystadleuaeth Cneifio a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Bryntrillyn, Bylchau. Enwyd Elen Williams, Fron Felen Fawr ac Ieuan Morris Bronant fel dau o’r prif drefnwyr, llogyfarchwyd hwy ynghyd a phawb a wnaeth y digwyddiad yn un llwyddianus trwy godi swm sylweddol o arian tuag at achos teilwng iawn.

Cadarnhau dyddiad a lleoliad Cyfarfod nesaf Y Cyngor;
Nos Fercher Hydref 11eg 2017 yng Nghanolfan Addysg Bro Aled, Llansannan am 7-30yh.

Ni fydd y cofnodion uchod yn cael eu cymeradwyo tan y Cyfarfod nesaf.

CYNGOR CYMUNED LLANSANNAN COMMUNITY COUNCIL
MINUTES OF MEETING HELD ON WEDNESDAY13th SEPTEMBER 2017 at 7-30pm
AT NEUADD GOFFA PLWYF Y BYLCHAU, GROES
Present: Councillors: Celfyn Williams (Chairman) Gareth Jones, Elwyn Jones ,Delyth Williams,
Guto Davies, Glyn O Roberts, Meurig Davies, Emrys Owen, Berwyn Evans and Trefor Roberts.
Members of the Public : County Cllr Sue Lloyd-Williams, Eifion M Jones, Bethan Jones,
Terry Wilde, Sandra Williams (Translator) and Emrys Williams (Clerk)
1. Apologies for absence: P J Coombes
2. Declarations of Interest, Code of Local Government Conduct:
Cllr, Celfyn Williams,Gareth Jones Elwyn Jones, Item 7.6
Cllr, Delyth Williams, Eitem 7.1, a 9.1
Cllr, Berwyn Evans, Eitem 9.1
3. Approval of the Councils previous meeting’s minutes: 16/08/17.
RESOLVED: To approve and sign the minutes of the Council’s meeting held on 16/08/17
4. Matters arising from the minutes
No issues were voiced regarding the minutes.
5 County Councillor’s monthly report.
The County Cllr presented a synopsis of her diary from July 3rd up to 13th September
In addition
County Cllr thanked everyone for their efforts with the recent celebrations at Neuadd Y Groes and Canolfan Addysg Bro Aled.
Maes Aled. More information regarding Cllr Meurig Davies’ quires
Culverts around Llansannan. Still awaiting for replies
Complaints re Bylchau crossroad towards Nantglyn
Coed Maes Aled Information regarding clearance work yet to be completed by Cartrefi Conwy
Information regarding the County Cllr’s appointment as Conwy CBC’s representative on N Wales Fire Service Authority.
6. Suspend the Standing Orders
Public’s opportunity to present
Mr Terrance Wilde presented a detailed report on the ongoing issues regarding the distribution of mail and parcel deliveries on Bronallt and Cae’r Gofaint estates. The Clerk will contact the appropriate section of the CCBC with this problem.
Reinstate the Standing Orders
7. Finance Statements of Bank Accounts.06/09/2017
Community Council Accounts £19,077-42
H G Owen Accounts £17,987-66
Total.£ 37,065-08
Payments
7.1 15/08/17. Standing Order, TT & B Williams Post Office Rent £ 151.66
7.2 16/08/17 Standing Order, British Gas, Electricity Llansannan Post Office £82.34
7.3 23/08/17. Iona Edwards, Accountant, Internal Audit. £60.00
7.4 31/08/17. Arfon Wynne, Strimming £1,902.66.
Cemetery x 2, £276.00 £2,308.39
General work£129.73
7.5 00/09/17. Community Translation 16/08/17 £91.96
7.6 13/09/17. Confirm Payment to Neuadd Goffa Plwyf Y Bylchau (1st Payment 2017/2018 £600.00
Payments Total £ 3,294.35
RESOLVED: That all the above payments are correct. All the above payments to be paid.
Receipts
22/08/17 Conwy CBC 2017/18 Precept £6667.00
Payments, 01/04/2017 - 31/08/2017 £11,604.19
Receipts, 01/04/2017 –31/08/2017 £15,862.33
Review of Budget for Sept / Oct/Nov.
TT&B Williams £455.00 Arfon Wynne £1.500.00. BT £80.00 Brit Gas £80.00 Your Tourism £35.00 Conwy CBC, Summer Sports Programme. £600.00 CBS Conwy Skips £740.00 .Translation £180.00 Neuadd Goffa Plwyf Y Bylchau £600.00. Clerk’s salary + expenses, £1400.00 Total, £5,670-00
Estimated Receipts for Sept / Oct / Nov.
Footpaths refund £1,585.00. HMB Enterprise Fflint £210.00 TotaL £1,795.00

8. Notice of applications for Planning Permission
No applications were received
9. Correspondence
9.1 17/08/17 Sharon Evans. Observations regarding the Council’s donation of £1,000-00 to Clwb Pel-droed Llansannan
9.2 21/08/17 Denbighshire County Council.Information re-Consultation on Local Development Plan Review Report and Draft Delivery Agreement for the Replacement LDP 21st.
9.3 24/08/17 Hafwen Davies, Clwt Grugor.
9.4 03/09/17 BDO External Audit Points not completed.
9.5 04/09/17 Cartrefi Conwy. Mae Aled Trees.
10. Any other business
10.1 Review of the Council’s Standing Orders
10.2 Review of the Council’s Financial Regulations
10. Co-option. The Chairman welcomed Bethan Jones to the meeting
RESOLVED: To Co-opt Bethan Jones as Councillor.
11 Matters refereed to the Clerk prior to the meeting
11.1 Signage at Bronallt and Cae’r Gofaint Groes
11.2 The need for a sign for Cae Chware Ffordd Gogor, Llansannan. Eifion M Jones offered to provide a sign
11.3 Cllr Meurig Davies, Query re drainage culverts in Llansannan village.
11.4 Cllr Guto Davies refereed to the successful sheep shearing competition held recently at the Sportsmans’s Arms Bylchau. Elen Williams Fron Felen Fawr and Ieuan Morris Bronant were named as being among the main organizers and were congratulated along with everyone who helped to raise a substantial amount of money towards a worthy cause.
Confirm date and venue of next Council meeting 11/10/2017
at Wednesday 11th October Canolfan Addysg Bro Aled, Llansannan at 7-30pm

UNCONFIRMED MINUTES

Cofnodion mis Medi 2017 September Minutes Statistics: 0 click throughs, 274 views since start of 2024

Cofnodion mis Medi 2017 September Minutes

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Henllan Conwy

Powered by Your Tourism Community

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Statistics: 78 click throughs, 70024 views since start of 2024