Dathliadau Penblwydd Helen / Helen's Birthday Celebrations
Mae Helen yn adnabydus am ddefnyddio achlysur ei phenblwydd fel modd o godi arian at achosion da, a dyna a wnaeth unwaith eto eleni pan yn 82 mlwydd oed ar ddydd Sadwrn yr ail o Fai. Aeth yr ymdrechion eleni tuag at Adran yr Urdd, Ysgol Bro Aled. Daeth hyn oherwydd p'nawn a dreiliodd yn y Ganolfan yn ystod Eisteddfod Dawns yr Urdd ar y 5ed o Fawrth eleni. 'Roedd wedi dotio ar y perfformiadau gan y cystadleuwyr, ar llwyddiant a ddaeth i'r ysgol leol. Helen is renowned for using the occasion of her birthday for raising funds for good causes and this year was no exception when she celebrated her 82nd on Saturday the 2nd of May. This year's effort was for the Urdd Section of Bro Aled School. This came about following an afternoon spent at the Urdd Dance Eisteddfod at the Community Centre on the 5th March this year. She had been thrilled by the performances of the competitors and the success of the local school.
Y digwyddiad cyntaf er cael arian oedd cynnal Bore Coffi yn y Llew Coch wedi ei drefnu gan grwp o ddysgwyr Cymraeg. Gwnaed £125.00 yma.
The first opportunity to obtain money was at a Coffee Morning in the Red Lion organised by a number of Welsh learners £125.00 was raised here.
Llun trwy ganiatad Alwyn Williams / Photograph by permission of Alwyn Williams
Trosglwyddo y £125.00 i Mrs Ann Lloyd, Prifathrawes Ysgol Bro Aled
O'r chwith i'r dde, Eban, Annlloyd, Helen, Mike a Lliwen
Transferring the £125.00 to Mrs Ann Lloyd, Headmistress of Bro Aled School.
from left to right, Eban, Ann Lloyd, Helen, Mike and Lliwen
Yr ail eitem a gynhaliwyd oedd Noson Cwis, eto yn y Llew Coch nos Fercher y 29ain o Ebrill. Yn ychwanegol, rhoddwyd Hamper gan Karen a Huw Rawson tuag at yr achos a gwerthwyd gwerth £64.00 o docynnau raffl i hwn. Y cyfanswn ariannol ar ddiwedd y noson oedd £150.00
The second item held was a Quiz Night again at the Red Lion on Wednesday 29th April. Additionally, a hamper had been donated by Karen and Huw Rawson and was raffled for a total of £64.00 in ticket sales. The total raised at the end of the evening was £150.00
Y tim buddugol / The winning team
Ar diwrnod ei phenblwydd, cafwyd garddwest yng ngardd Ty'n yr Ardd. Agorwyd yn swyddogol a torrwyd y riban gan ein Cynghorydd Sirol Mrs Sue Lloyd-Williams. Er fod y tywydd yn ychydig anffafriol, daeth nifer dda o drigolion y pentref i'r achlysur er cefnogi ymdrech Helen i godi arian.
I gloi y diwrnod, cynhaliwyd gyrfa chwist yn y Ganolfan a llwyddwyd i godi £54.00 ychwanegol yma at y gronfa.
On the day of the birthday, an Open Garden was held at Ty'n yr Ardd. The official opening and ribbon cutting ceremony was undertaken by our County Councillor, Mrs Sue Lloyd-Williams. Although the weather was a little unfavourable, a good number of local residents came to support this fundraising activity.
To round off the day, a whist drive was held at the Centre and this boosted the funds by a further £54.00
Sgwrsio a cadw'n sych!
Chatting and keeping dry!
Mwy / more
website link
Dathliadau Penblwydd Helen / Helen's Birthday Celebrations Statistics: 0 click throughs, 454 views since start of 2024
Dathliadau Penblwydd Helen / Helen's Birthday Celebrations
Y llythyr a anfonwyd gan Helen at Brifathrawes Ysgol Bro Aled yn dilyn Eisteddfod Dawns yr Urdd yn y Ganolfan.
The letter sent by Helen to the Headmistress of Bro Aled School following the Urdd Dance Eisteddfod at the Community Centre.