Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Bro Aled

Sadwrn Siarad yn dathlu 10 mlynedd / Sadwrn Siarad celebrating 10 years

Sadwrn Siarad Llansannan Dwi'n ceisio i siarad cymraeg efo Popeth Cymraeg yn Ninbych ac mae `na weithgareddau ychwanegol o gwmpas y cwrs-teithiau allan achlysurol-i bentref Portmeirion, ysbyty chwarel yn Llanberis, gwinllan yn Nyffryn Nantlle ac ati. Un bore Sadwrn gwnaethon ni fynd am dro o gwmpas y pentref Llansannan pan oedd yn rhan o Wythnos Gerdded Conwy. Mae `na ddwy sesiwn pob mis yn y Llew Coch yn Llansannan lle mae dysgwyr o lefelau gwahanol yn dod I ymarfer siarad, gwrando a thrafod eitemau o ddiddordeb. Mae'r sesiynau yn y Llew Coch bore Sadwrn cyntaf ac ar y trydydd bore Sadwrn pob mis. Dydi tiwtoriaid ddim yn actio fel tiwtoriaid go iawn yn yr ystafelloedd dosbarth. Dy'n ni'n canu, yn siarad, yn chwerthin, yn dysgu am hanes Cymru, diwilliant, ac ati ac wrth gwrs yn mwynhau coffi a bisgedi. Mae'r awyrgylch yn ardderchog. Mae o'n lle gwych i ymlacio ac ymarfer y Gymraeg.

/image/upload/eifion/Sadwrn_Siarad_dathlu.jpg

Dathlu 10 oed ar Ddydd Sadwrn yr 20fed o Fedi 2014
yng ngardd y Llew Coch.
Celebrating 10 years on Saturday 20th September 2014 in the Red Lion garden.

/image/upload/eifion/Chris_a_Llinos.jpg

Chris Ryder (dysgwraig sydd rwan yn rhugl) yn cyflwyno tlws o flodau a siocled i Llinos Roberts . Llinos a ddechreuodd Sadwrn Siarad ac mae wedi bod yn weithgar trwyr blynyddoedd ac roedd yr achlysur hwn yn gyfle i ddweud diolch iddi.
Chris Ryder (a learner who is now fluent) presenting Llinos Roberts with a bouquet of flowers and chocolates.
Llinos started Sadwrn Siarad and has been active throughout the years and on this occasion was it was a way of saying thank you to her.

/image/upload/eifion/Sadwern_Siarad_dolig_003.JPG

Sesiwn Nadolig 2003. Yn canu carolau cyn cael cinio.
Mae canu ny Gymraeg yn ffordd ardderchog i ddysgu'r iaith.

Christmas session 2003. Singing before eating lunch.
Singing in Welsh is an excellent way of learning the language.

/image/upload/eifion/Cerddwyr_Sadwrn_Siarad.jpg

Wedi ymgynull ar sgwar Llansannan cyn cychwyn ar daith gerdded yn ystod Wythnos Gerdded Conwy 2011. Mae taith gerdded i Ddysgwyr Cymraeg wedi ei drefnu yn y rhaglen hon ers nifer o flynyddoedd a daw dysgwyr o bob rhan o'r sir a phellach, i'r pentref er ymuno a ni ar y daith.
assembled in the square Llansannan prior to setting off on a walk during Conwy Walking Week 2011. A walk for Welsh learners has been featured in this programme for a number of years and is participated in by learners from all over the county and beyond.

/image/upload/eifion/Bore_Coffi_Plant_Mewn_Angen_2.jpg

Cynhaliwyd Bore Coffi blynyddol Plant Mewn Angen gan yr aelodau ers y dechrau ac erbyn hyn mae sawl £100.00 wedi ei basio 'mlaen i'r elusen yma.
Annual coffee mornings have been held for Children in Need right from the start of Sadwrn Siarad and over the years £100.00s have been passed on to this charity.

Sadwrn Siarad yn dathlu 10 mlynedd / Sadwrn Siarad celebrating 10 years Statistics: 0 click throughs, 412 views since start of 2024

Croeso SS 001.jpgSadwrn Siarad yn dathlu 10 mlynedd / Sadwrn Siarad celebrating 10 years

Dechreuodd Siarad yn Y Llew Coch, Llansannan ar Ddydd Sadwrn y 4ydd o Fedi 2004 a da yw gweld rhai o'r dysgwyr cyntaf i ddod ir sesiwn yn dal i ddod yn rheolaidd.
Sadwrn Siarad sterted at the Red Lion , LLansannan on Saturday the 4th September 2004 and it's great to see some of the first learners that attended still coming regularly to the sessions.

Rhai o griw Sadwrn Siarad ar achlysur "Cerddwn Ymlaen" yn Llansannan
Some of Sadwrn Siarad's crew on the occasion of "Walk On" at Llansannan

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Henllan Conwy

Powered by Your Tourism Community

Cyngor Cymuned Llansannan Community Council Statistics: 81 click throughs, 73052 views since start of 2024